Ydych chi wedi gweld Jason Thomas?

Rydym yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Jason Thomas, 29 oed o Rymni sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

Oherwydd bod Jason Thomas, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am leoliad Jason Thomas ffoniwch 101 neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddyfynnu rhif cofnod: 1800045960